Pwyllgor Menter a Busnes – Ardaloedd Menter

Papur Tystiolaeth Ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyflwyniad

 

1.    Diben y papur hwn yw darparu tystiolaeth ysgrifenedig i hysbysu a chefnogi gwaith y Pwyllgor Menter a Busnes. Mae’n darparu trosolwg cyffredinol ar yr Ardaloedd Menter, eu cymhellion a’u mesurau perfformiad. Mae’n cloi drwy grynhoi’r uchafbwyntiau cyflenwi allweddol ym mhob Ardal Fenter hyd yma.

 

Ardaloedd Menter – cefndir a chyd-destun   

 

2.    Yn Ebrill 2012, dechreuodd pum lleoliad yr Ardaloedd Menter cyntaf weithredu (Ynys Môn; Canol Caerdydd; Glannau Dyfrdwy; Glynebwy a Sain Tathan – Maes Awyr Caerdydd). Ymunodd dwy Ardal Fenter arall â’r rhain ym Mai 2012 (Dyfrffordd y Ddau Gleddau ac Eryri). Mae pob un o’r Ardaloedd Menter yn canolbwyntio ar un neu ragor o sectorau busnes allweddol, fel a ganlyn:-

 

Ardal Fenter

Sector y Canolbwyntir arno

Ynys Môn  

Ynni a’r Amgylchedd

Canol Caerdydd  

Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol

Glannau Dyfrdwy

Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch

Glynebwy

Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch

Dyfrffordd y Ddau Gleddau

Ynni a’r Amgylchedd

Eryri  

Ynni a’r Amgylchedd a TGCh

Sain Tathan – Maes Awyr Caerdydd

Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, awyrofod yn benodol.

 

3.    Bwriad cael pob Ardal i ganolbwyntio ar sector penodol yw hybu clystyrau sector a datblygu cadwyni cyflenwi, gan hybu twf a chyflogaeth mewn lleoliadau sydd eisoes yn arddangos clystyrau o unedau busnes a chyflogaeth neu sydd â’r potensial i ddatblygu clystyrau o’r fath. Mae dull gweithredu’r Ardaloedd Menter o greu cyfleoedd, gan ganolbwyntio ar leoliadau penodol, gweithgareddau a sectorau allweddol yn cyd-fynd â dull y sector ehangach o ddatblygu’r economi. Mae pob Ardal Fenter hefyd yn annog datblygu economaidd ehangach i gefnogi twf busnes, swyddi newydd a diogelu cyflogaeth sydd eisoes yn bodoli’n fwy cyffredinol.

 

Byrddau’r Ardaloedd Menter a’u dull gweithredu

 

4.    Mae gan bob Ardal Fenter Fwrdd cynghori dan arweiniad y sector preifat sy’n darparu cyngor ar y weledigaeth, y cyfeiriad strategol a’r blaenoriaethau cyflenwi ym mhob Ardal Fenter. Er bod eu hamcanion hirdymor cyffredinol i gefnogi swyddi a thwf yn debyg drwyddynt draw, mae pob Bwrdd Ardal Fenter unigol yn gweithredu’n wahanol. Er enghraifft, yr hyn a wna rhai Byrddau yw gwella’r seilwaith er mwyn annog busnesau i leoli yno. I eraill, efallai mai’r nod yw denu tenant blaenllaw yno fel angor i ddenu eraill.

 

5.    Mae’r dulliau gweithredu gwahanol hyn yn adlewyrchu’r amgylchiadau economaidd, y cyfleoedd a’r heriau a geir ym mhob lleoliad ac maent yn fwy ymatebol i anghenion lleol na dull gweithredu ‘un dull i bawb’. Mae’r cyngor a’r arweinyddiaeth strategol y mae’r Byrddau yn eu darparu yn sicrhau bod pob Ardal Fenter yn rhoi sylw i anghenion y sector preifat. Gan gydnabod cyfraniad y Byrddau, gofynnais yn ddiweddar i bob Cadeirydd edrych ar yr aelodaeth bresennol i sicrhau eu bod yn parhau i ganolbwyntio ar y cyflenwi ac yn achub ar y cyfle i ddwyn gwybodaeth o’r newydd i mewn i’w harbenigedd busnes, os oedd angen. Rwyf hefyd yn rhoi ystyriaeth i faterion llywodraethu tymor hwy.

 

Cymhellion  

 

6.    Mae’r Ardaloedd Menter yn elwa o amrywiaeth cystadleuol o gymhellion ariannol a chymhellion nad ydynt yn rhai ariannol. Ymysg y rhain y mae band eang cyflym iawn, cymorth gydag ardrethi busnes, lwfansau cyfalaf uwch a chefnogaeth sgiliau.  

 

 

·         Cymorth gydag Ardrethi Busnes: Yn dilyn dau gylch ymgeisio, mae’r Cynllun wedi cynorthwyo 66 o fusnesau ac wedi ymrwymo bron £4.5 miliwn o gyllid. 

 

 

·         Cynllunio wedi’i Symleiddio:  Fis diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi Arweiniad Arferion Da i Ardaloedd Menter a Gorchmynion Datblygu Lleol. I gyd-fynd â’r arweiniad rydym yn bwriadu cynnal dwy sesiwn wybodaeth a gynhelir yn yr Ardaloedd Menter.

 

 

7.    Yn ogystal, ymysg yr ymyriadau eraill mewn Ardaloedd Menter y mae datblygiadau gyda’r seilwaith trafnidiaeth i wella’r cysylltedd yn yr Ardaloedd Menter eu hunain ac iddynt, ynghyd ag atebion eiddo a thir sydd wedi’u teilwra’n arbennig.

 

Dangosyddion Perfformiad

 

8.    Ar ddiwedd y flwyddyn diwethaf, cyhoeddom y dangosyddion perfformiad y byddwn yn eu defnyddio i fonitro’r cynnydd mewn meysydd allweddol megis swyddi, buddsoddiadau, datblygu tir, cymorth busnes ac ymholiadau. Cyhoeddwyd targedau cyffredinol ar gyfer 2014/15 hefyd a bydd y rhain yn helpu i osod y meincnod ar gyfer cyflenwi dros y flwyddyn. Pennwyd y dangosyddion a’r targedau drwy ymgynghori’n agos gyda Chadeiryddion Byrddau’r Ardaloedd Menter sy’n meddu ar gryn brofiad ac sydd mewn sefyllfa dda i benderfynu sut dylem olrhain y cynnydd.

 

9.    Byddwn yn adrodd ar y cynnydd yn erbyn y dangosyddion ym Mai, ond mae hefyd yn bwysig ein bod yn cael gwybodaeth am y swm a’r sylwedd er mwyn asesu perfformiad. Bydd hyn yn galluogi i ni gael darlun ehangach o sut mae’r Ardaloedd Menter yn datblygu. I’r perwyl hwn, rydym yn cynnal arolwg gyda busnesau mewn Ardaloedd Menter er mwyn dod i ddeall eu profiad a’u gofynion yn well. 

 

Uchafbwyntiau Cyflawni

 

10. Mae pob Ardal Fenter yn wynebu cyfleoedd a heriau gwahanol sy’n adlewyrchu’r amgylchiadau economaidd, daearyddol a demograffig ym mhob lleoliad. Er bod cynnydd i’w weld ym mhob un o’r saith Ardal Fenter, rydym yn cydnabod na all y cynnydd fod yn unffurf. Mae rhai o’r Ardaloedd yn fwy aeddfed ac yn fwy parod am fuddsoddiad nac eraill, ond ym mhob un o’r Ardaloedd Menter, fe welir datblygiadau sy’n gosod y sylfeini ar gyfer swyddi a thwf cynaliadwy ar gyfer y tymor hwy.

 

Ardal Fenter Ynys Môn  

 

11. Mae Ardal Fenter Ynys Môn yn cefnogi ac yn ategu’r Rhaglen Ynys Ynni, a sefydlwyd i ddenu swyddi crefftus iawn i’r ardal a sefydlu’r ynys fel canolfan ragoriaeth mewn cynhyrchu ynni isel o ran carbon. Yr elfen amlycaf ymysg y datblygiadau sydd ar y gweill yw’r rheini sy’n gysylltiedig â digomisiynu’r orsaf bŵer niwclear bresennol a’r orsaf niwclear newydd arfaethedig yn Wylfa. Nid yw’r datblygiadau niwclear hyn yn faterion datganoledig, ond maent yn bwysig dros ben i gyflwyno cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi i fusnesau lleol a’r rheini sy’n symud i’r Ardal Fenter.  

 

12. Yn ogystal â’r cynnydd sydd ynghlwm â’r datblygiadau niwclear, mae’r Ardal yn helpu i gynyddu buddsoddiadau i gynorthwyo adfywio economaidd, gweithgareddau eiddo a seilwaith. Dyma rai ohonynt:-

 

·         Cymorth ariannol i Stena sydd wedi helpu i gyflenwi Uwchgynllun Datblygu Porthladd Caergybi. Mae’r adroddiad ar y cynllun hwn yn awr wedi’i gwblhau ac mae’r cam gwerthuso opsiynau nesaf yn mynd rhagddo.

 

·         Ceisio mynegiadau o ddiddordeb oddi wrth ddatblygwyr i gyflawni datblygiad yn yr Ardal. Rydym hefyd yn bwrw ymlaen ein trafodaethau parhaus gyda datblygwyr sydd eisoes wedi mynegi diddordeb.  

 

·         Ein hymrwymiad ariannol o £2.2 miliwn i gynorthwyo cynlluniau dan arweiniad Conygar Investment Company PLC i ddatblygu cam cyntaf canolfan ddosbarthu a logisteg ym Mharc Busnes Cybi. 

 

·         Llwyddiant amlwg yn creu swyddi yn yr Ardal, gan gynnwys ein gwaith gyda Boparan Holdings sydd wedi arwain at greu dros 310 o swyddi a diogelu 330 o swyddi eraill. 

 

Ardal Fenter Canol Caerdydd

 

13. Mae datblygiadau yn Ardal Fenter Canol Caerdydd yn helpu i atgyfnerthu sefyllfa Caerdydd fel lleoliad atyniadol ar gyfer buddsoddiadau gwasanaethau ariannol. Rydym yn gweithredu ar flaenoriaethau strategol y Bwrdd i sicrhau y ceir adeiladau swyddfa addas i ddenu tenantiaid allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys:-

 

·         Cyflwynwyd gwahoddiad i dendro ar gyfer Safle EO4, Sgwâr Callaghan, er mwyn dewis contractwr adeiladu addas i ddylunio ac adeiladu’r adeilad swyddfa Gradd A 90,000 troedfedd sgwâr.

 

·         Mae adeilad 1 Cwr y Ddinas, sy’n cynnwys 80,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd Gradd A, yn bwrw tua’r terfyn a bydd wedi’i gwblhau yn ôl y disgwyl erbyn diwedd y mis. Mae ymholiadau gan fusnesau a threfniadau posibl i osod yr adeilad ymlaen llaw hefyd yn mynd rhagddynt.

 

·         Mae adeilad 2, Cwr y Ddinas, sy’n cynnwys 85,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd Gradd A wedi cael caniatâd cynllunio. Bydd y datblygwr hwn yn derbyn Grant Datblygu Eiddo, ac mae’n ystyried dyddiad dechrau adeiladu yn ystod 2014.

 

Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy

 

14. Mae gan Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy sylfaen busnes gadarn eisoes gan gynnwys cyflogwyr blaenllaw fel Airbus, Toyota a TATA Steel. Mae’r cymhellion yn yr Ardal yn cynorthwyo busnesau i fuddsoddi ac ehangu. Ymysg y rhain y mae cwmnïau angori blaenllaw a BBaChau fel Westbridge Furniture, sydd wedi cyhoeddi cynlluniau i ehangu eu gweithlu a chreu dros 150 o swyddi newydd. 

 

15. Mae’r amgylchedd busnes cadarnhaol yn yr Ardal hefyd wedi bod yn allweddol i fuddsoddiadau symudol rhyngwladol ddewis Glannau Dyfrdwy yn hytrach na lleoliadau eraill. Er enghraifft, dewisodd ConvaTec Lannau Dyfrdwy yn hytrach na safleoedd eraill oedd yn cystadlu ar draws y byd fel y lle i ehangu eu gweithrediadau.

 

16. Mae Porth y Gogledd yn dal i fod yn un o’r datblygiadau allweddol i Fwrdd yr Ardal Fenter. Mae’r trafodaethau’n parhau gyda’r datblygwyr sector preifat i fwrw’r datblygiad hwn ymlaen. Rydym hefyd wrthi’n bwrw ymlaen gam blaengynllunio a cham caffael y gwaith atal llifogydd sy’n ofynnol i ddiogelu safle Porth y Gogledd. 

 

Glynebwy

 

17. Mae Ardal Fenter Glynebwy yn datblygu’n raddol. Mae hyn yn cynnwys gwaith i ddatblygu seilwaith y safle, sicrhau cyflenwad pŵer trydan i’r safleoedd datblygu a gwella mynediad i’r Ardal. 

 

18. Mae nifer o’r busnesau presennol wedi ehangu, er enghraifft, dros y ddwy flynedd diwethaf a gyda chefnogaeth ein cymhellion, mae Cardinal Packaging wedi tyfu’n gyflogwr blaenllaw yn yr Ardal. Yn ogystal â chefnogi busnesau i ehangu, rydym hefyd wedi cael cryn lwyddiant yn denu busnesau newydd i’r Ardal; yn eu mysg y mae DT Civils (sector Adeiladu) a Kiwa (sector Gwyddorau Bywyd).                  

 

19. Mae seilwaith trafnidiaeth yn bwysig dros ben i’r Ardal Fenter ac mae’r gwaith ar y rhan £160 miliwn o ffordd ddeuol yr A465 yn mynd rhagddo. Rydym ni hefyd yn bwrw ymlaen â’r gwaith gwerth £11 miliwn i ymestyn y rheilffordd o’r Parcffordd i safle gwaith Glynebwy.

 

Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau

 

20. Mae Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn cynnig i fusnesau ynni a’r gadwyn gyflenwi amrywiol safleoedd a mynediad i brifysgolion sydd ag arbenigedd mewn meysydd cysylltiedig ag ynni. Mae safleoedd Waterston a Blackbridge yn hanfodol i lwyddiant yr Ardal. Mae’r ddau safle yn awr ar y farchnad a daeth dros 30 o ymholiadau i law eisoes. 

 

21. Cynhaliwyd cynllun sgiliau cychwynnol hefyd i fwrw ymlaen datblygu sgiliau morol ac ynni yn yr Ardal, gan weithio gyda Choleg Sir Benfro. Yn ogystal, yn dilyn cyngor a gafwyd gan y Bwrdd, cytunwyd i ymestyn ffiniau Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau er mwyn rhoi sylw i ychydig o anghysondeb a chynorthwyo rhai busnesau allweddol yn well. 

 

Ardal Fenter Eryri

 

22. Ceir dau safle allweddol yn Ardal Fenter Eryri: safle Trawsfynydd gyda’i seilwaith ynni a Pharc Menter a Maes Awyr Llanbedr sydd â’r capasiti i ddarparu ar gyfer amrywiol ddefnyddiau. Mae cynnydd calonogol i’w weld, yn benodol, cyflawnwyd asesiad o’r opsiynau strategol ar gyfer safle Trawsfynydd ynghyd ag uwchgynllun ar gyfer safle Llanbedr ac mae hyn eisoes yn helpu i osod y sylfeini ar gyfer buddsoddiadau hirdymor.

 

23. Mae oddeutu 700 o bobl yn cael eu cyflogi ar safle Trawsfynydd ar hyn o bryd. Mae dyfodol y safle, wrth gwrs, wedi’i gysylltu’n agos â digomisiynu niwclear ac nid yw hwn yn fater sydd wedi’i ddatganoli. Rydym yn gweithio gyda’r Awdurdod Digomisiynu Niwclear (NDA) wrth iddynt geisio penodi Rhiant Sefydliad newydd i reoli a gweithredu’r safle, gan geisio dylanwadu ar y rhaglen ddigomisiynu, pryd bynnag y bo hynny’n bosibl. Yn safle Llanbedr gwelwyd gweithgaredd busnes sylweddol ac mae dau gwmni arall wedi llofnodi prydlesau’n ddiweddar a byddant yn symud i’r safle yn ystod gwanwyn 2014.

 

Ardal Fenter Sain Tathan – Maes Awyr Caerdydd

 

24. Mae Ardal Fenter Sain Tathan – Maes Awyr Caerdydd yn darparu’r amgylchedd a’r cymhellion a fu’n hanfodol i ddenu busnesau o ansawdd fel E Cube a Cardiff Aviation. Mae cryn ddiddordeb yn yr Ardal o hyd ac yn dilyn trafodaethau parhaus gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn, mae’r contract sy’n cael ei ddatblygu i hwyluso agor y maes awyr yn mynd rhagddo’n hwylus a bydd yn gweithredu saith niwrnod yr wythnos erbyn Ebrill. Bydd y datblygiad hwn yn gwneud yr Ardal hon yn fwy atyniadol i fuddsoddwyr. 

 

25. Mae’r gwaith hefyd wedi dechrau ar brosiect sythu ffordd, sy’n costio bron £3 miliwn, i wella’r mynediad i Ardal Fenter Sain Tathan a Maes Awyr Caerdydd. Bydd hwn yn gwella’r mynediad i’r safle ac yn darparu rhagor o gyfleoedd i fuddsoddi yno.

 

Casgliadau

 

26. Mae cynnydd i’w weld ar draws y saith Ardal Fenter ac mae’r papur hwn yn tynnu sylw at rai uchafbwyntiau amlwg ym mhob Ardal. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae’n rhy fuan i wneud asesiad diffiniol o’r canlyniadau, fel y casglodd Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Ardaloedd Menter a gyhoeddwyd ddiwedd y llynedd. Er hynny, mae’r cynnydd a wneir a’r newidiadau positif sydd eisoes yn digwydd yn galonogol.